Lara Jones

Artist Preswyl / Artist in Residence

17 / 02 / 20 – 22 / 02 / 20

Sacsoffonydd, perfformwraig fyrfyfyr, cyfansoddwraig, addysgwraig a chyd-weithredwraig yw Lara Jones sy’n rhannu ei bywyd rhwng Leeds a Llundain. Mae’n aelod o J Frisco, triawd jazz sy’n creu seinluniau byrfyfyr sy’n hylifol o ran genre a sŵn a dynnir o faterion sy’n ymwneud â’r emosiynau, gwleidyddiaeth a rhywedd. Mae Lara yn aelod o Beyond Albedo, pedwarawd retro-ddyfodolaidd rhyngserol ac yn Gyd-gyfarwyddwr Northern Contemporary Collective, ensemble o gerddorion, artistiaid a dawnswyr sy’n defnyddio gofodau anarferol, byrfyfyrio a ffurfiau trawsgelfyddydol ac sy’n cyflwyno gweithdai addysgol yng Ngholeg Cerdd Leeds.
Yn ystod ei phreswyliad 6 diwrnod dwys yma yn y Capel, bydd Lara yn gweithio ar ysgrifennu a recordio ei halbwm cyntaf sy’n edrych ar symudiad cylchol siwrnai drên y mae wedi’i gwneud yn rheolaidd rhwng Leeds a Llundain dros y 12 mis diwethaf. Wedi’i hysbrydoli gan y syniad/symbol Japaneaidd o Enso, mae Lara yn anelu at fynegiant ymgorfforedig o’r ennyd, gan adael lle i afreoleidd-dra ac i ddyfod, wrth gwestiynu cyfyngiadau prosesau canfyddedig y Gorllewin tuag at ’berffeithrwydd’.

Bydd Lara yn dychwelyd i’r Capel yn nes ymlaen eleni i gynnig perfformiad cyhoeddus.
Am fwy o wybodaeth am waith Lara, ei phrosiectau a pherfformiadau blaenorol dilynwch y ddolen hon.

Lara Jones is a saxophonist , improviser, composer, educator and collaborator based between Leeds and London.She is a member of J Frisco, a jazz trio generating improvised genre -fliud soundscapes and noise drawn from emotion, political and gender issues. Lara is a member of Beyond Albedo, an interstella retro-futuristic quartet and Co-director of Northern Contemporary Collective, an ensemble of muscians, artists and dancers that utilise unusual spaces, improvisation, cross art forms and deliver educational workshops at Leeds College of Music.
During her intensive 6 day Residency here at y Capel, Lara will work on writing and recording her debut album exploring the circular motion of a train journey regularly undertook between Leeds and London over the last 12 months. Inspired by the Japanese notion /symbol Enso, Lara aims towards an embodied expression of the moment ,allowing for irregularity and room for becoming, questioning the constraints of perceived Western processes towards ‘perfection’.

Lara will return to y capel later this year to offer a public performance.
For more info about Lara’s practice, her previous projects and performances follow this link.

%d bloggers like this: