Llyfrgell | Library

Welcome to Capel Y Graig Research Library, a diverse selection of art/social/critical/cultural theory. The collection is particularly rich in creative practice, gender, race and environment.

The library is open to all on request so do get in touch, come along and spend some time…an hour… a day here with a cup of tea or two.

See the titles below (please bear with me as I am still in the process of uploading all the existing titles and will continue to add as the collection grows).

If you would like to visit, or donate a book to this project, please get in touch with Avi through the contact link on this site.

These titles are part of my personal collection, an assemblage of books and ideas that I have slowly gathered (ongoing) over the 15 years I have been living and working here at Capel Y Graig.

Croeso i Lyfrgell Ymchwil Capel Y Graig, detholiad amrywiaethol o theori celf/cymdeithasol/beirniadol/diwylliannol. Saif gyfoeth y casgliad ym meysydd practis creadigol, rhywedd, hil ac amgylchedd.

Mae’r llyfrgell ar agor i bawb drwy apwyntiad felly cysylltwch â mi, dewch draw i dreulio amser yma…am awr…am ddiwrnod cyfan gyda phaned neu ddau.

Mae’r teitlau yn rhan o’m casgliad personol, neu yn hytrach… maent yn gydosodiad o lyfrau a syniadau wedi’u hel yn raddol dros y pymtheg mlynedd rwy wedi byw a gweithio yma yng Nghapel Y Graig.

Os hoffech ymweld neu gyfrannu llyfr tuag at y prosiect, mae croeso i chi gysylltu â Avi drwy’r ddolen gyswllt ar y wefan hon.

Gellid pori teitlau’r casgliad isod gan ddefnyddio’r bar sgrolio ar y dde (bydd eisiau amynedd gan fy mod i wrthi’n uwchlwytho holl deitlau’r casgliad ar hyn o bryd a byddaf yn parhau i ‘neud wrth i’r casgliad dyfu).