
06/07/2019
Funny, intimate, political, a bit livid, powerful, powerless and patient.
Doniol, agos atoch chi, gwleidyddol, ychydig yn gandryll, pwerus, diymadferth ac amyneddgar.
Neither Here Nor There is created, hosted and performed by artists Jo Fong and Sonia Hughes. Sara McGaughey and Eddie Ladd are joining and will be presenting the Welsh Language performance here at Lle Celf Capel y Graig.
Bydd Sara McGaughey ac Eddie Ladd yn ymuno i gyflwyno’r perfformiad Cymraeg yma yng Nghapel y Graig.



Jo, Sonia, Eddie and Sara propose questions in a delicate but impactful way about place; where we live, where are we from, where our dads are from…we talk about the massive unfathomable problems of the world and equally our home, our neighbours, our garden fences. The performers host 24 audience members at a time and encourage the intimate theatre of hearing one person. The narrative inevitably changes from show to show and place to place. Jo and Sonia’s moments are improvised over a few key steering questions. They lay out the rules and as an ensemble with the audience, we play the game. It soundssimple but as the hosts mention right at the beginning of their show “Complexity takes time”.
The timing seems right; the UK has taken in a mutual inhale of breath and the unknown and uncertainty is tangible. The piece acts as an antidote to the short, sharp brexit banter social media iPhone culture. The idea of slowing down, taking time seems more important than ever and listening has become a form.
Inclusivity is the driving force in this work. The show is about everyone and how everyone perceives one another, it blurs the boundaries of identity, race and there is space for difference.
There is an element of protest in the piece but also a care, a nurture, an empathy. It’s humbling, all encompassing and quite beautiful.
Mae Heb Fod Fan Hyn na Man Draw wedi’i chreu, ei chyflwyno a’i pherfformio gan yr artistiaid Jo Fong a Sonia Hughes. Bydd Sara McGaughey ac Eddie Ladd yn ymuno i gyflwyno’r perfformiad Cymraeg yma yng Nghapel y Graig.
Mae Jo, Sonia, Eddie a Sara yn codi cwestiynau mewn ffordd dringar ond drawiadol am le; lle’r ydyn ni’n byw, o le rydyn ni’n dod, o le mae ein tadau’n dod… rydyn ni’n sôn am broblemau enfawr, annirnad y byd a hefyd am ein cartref, ein cymdogion, ffensys ein gerddi. Mae’r perfformwyr yn cynnig lle i gynulleidfa o 24 ar y tro gan hybu’r theatr agosatoch a geir o wrando ar un person. Yn anochel mae’r naratif yn newid o sioe i sioe. Mae eiliadau Jo a Sonia yn ffrwyth byrfyfyrio mewn ymateb i ychydig gwestiynau llywio allweddol. Maent yn gosod y rheolau ac rydyn ni, y gynulleidfa, yn chwarae’r gêm. Mae’n swnio’n syml ond fel y sonia’r cyflwynwyr ar ddechrau eu sioe, “Mae cymhlethdod yn cymryd amser.”
Mae’r amseriad i’w weld yn iawn; mae’r DU wedi tynnu anadl dwfn ar y cyd ac mae’r anhysbys ac ansicrwydd i’w teimlo. Mae’r darn yn gweithredu fel gwrthwenwyn i’r diwylliant cyfryngau cymdeithasol ac iPhone a’i bryfocio pytiog am Brexit. Mae’r syniad o arafu a chymryd amser i’w gweld yn bwysicach nag erioed ac mae gwrando wedi dod yn gelfyddyd.
Cynhwysiant yw’r sbardun yn y gwaith hwn. Mae’r sioe yn ymwneud â phawb a sut mae pawb yn gweld ei gilydd. Mae’n cymylu ffiniau hunaniaeth a hil ac mae yna le ar gyfer gwahaniaeth.
Ceir elfen o brotest yn y darn ond hefyd gofal, meithrin, empathi. Mae’n gwneud i rywun deimlo’n wylaidd, mae’n hollgwmpasog ac yn hollol hardd.






Neither Here Nor There is commissioned by Peilot and LAUK Diverse Actions, an initiative which champions culturally diverse ambition, excellence and talent in Live Art. Diverse Actions builds on Live Art’s vital role as a practice of artistic innovation and a space to express complex ideas of cultural identity. Neither Here Nor There was recently presented as part of Chinese Arts Now Festival 2019.
Comisiynwyd Neither Here Nor There [Heb Fod Fan Hyn na Man Draw] gan Peilot a LAUK Diverse Actions, menter sy’n hyrwyddo uchelgais diwylliannol amrywiol, rhagoriaeth a thalent yn Live Art. Mae Diverse Actions yn adeiladu ar rôl hollbwysig Live Art fel ymarfer arloesi artistig a lle i fynegi syniadau cymhleth o hunaniaeth ddiwylliannol. Cyflwynwyd Neither Here Nor There yn ddiweddar fel rhan o Ŵyl Chinese Arts Now 2019.
Supported by
