Wrth fy modd cael rhannu’r gwaith diweddar yma a ryddhawyd yn ystod y cyfnod clo. Fe’u chwaraewyd a’u recordio i gyd yng Nghapel y Graig. Efallai fod y Capel yn dawel ar hyn o bryd … ond mae’n dal i atseinio allan fan’na…
Delighted to share these three recent releases during this lockdown period. All were played and recorded at Capel y Graig . Y Capel may be quiet at the moment ….but still resonating out there…
Trwst Angharad Davies and Steve Beresford Recorded by Simon Reynell 2014 Released 2020
Recordiwyd gan Simon Reynell 2014 Rhyddhawyd yn 2020.
Angharad Davies and Steve Beresford playing here at Capel y Graig in 2014. Recorded by Simon Reynell. Angharad released a limited edition CDR ‘Trwst’ at Steve’s 70th birthday concerts at Cafe Oto just before lockdown.
Rhyddhaodd Angharad CDR rhifyn cyfyngedig ‘Trwst’ yng nghyngerdd pen-blwydd Steve yn 70 oed yng Nghaffi Oto ychydig cyn y clo mawr.
Listen to three mp3 extracts of Trwst
Feiolinydd yw Angharad Davies, un sydd yr un mor gartrefol wrth fyrfyfyrio ag y mae wrth gyfansoddi, gyda chatalog recordio helaeth fel aelod o amrywiaeth eang o ensembles a grwpiau. Mae hi’n arbenigwraig yn y grefft o ‘baratoi’ ei feiolín, gan ychwanegu gwrthrychau a deunyddiau ati i estyn ei phriodweddau wrth wneud sŵn. Mae ei theimladrwydd tuag at bosibiliadau sefyllfaoedd cerddorol a’r sylw y mae’n ei roi i’w siapiau a’u cyfeiriad yn golygu mai hi yw un o ffigurau mwyaf cyfareddol cerddoriaeth gyfoes. Mae wedi perfformio yn Neuadd y Frenhines Elisabeth, Promiau’r BBC, cyfres gyngherddau Music We’d Like to Hear; mae hi’n artist cyswllt yng Nghaffi Oto, yn aelod o Apartment House, Cranc a Common Objects; mae wedi bod yn artist preswyl yn Q-02 ac wedi chwarae’n fyw gyda Tony Conrad yn yr Ystafell Dyrbin yn Tate Modern. Mae prosiectau cydweithredol eraill wedi cynnwys pobl fel Kazuko Hohki, Tisha Mukarji, Cat Lamb, Lina Lapelyte, Dominic Lash, Rie Nakajima, Julia Eckhardt, J.G.Thirlwell, Stefan Thut, Paul Whitty, Manfred Werder a Taku Unami ac mae wedi rhyddhau recordiau ar Recordiau Absinth, Another Timbre, Potlatch a Confrontrecords.
Angharad Davies is a violinist, one at ease in both improvising and composition, with a wide discography as part of varied range of ensembles and groups. She’s a specialist in the art of ‘preparing’ her violin, adding objects or materials to it to extend its sound making properties. Her sensitivity to the sonic possibilities of musical situations and attentiveness to their shape and direction make her one of contemporary music’s most fascinating figures. She’s performed at, the Queen Elizabeth Hall, BBC Proms, Music We’d Like to Hear’s concert series, is an associate artist at Cafe Oto, is a member of Apartment House, Cranc and Common Objects, been artist in residence at Q-02 , and played live with Tony Conrad in the Turbine Room at the Tate Modern. Other collaborations have featured the likes of Kazuko Hohki, Tisha Mukarji, Cat Lamb, Lina Lapelyte, Dominic Lash, Rie Nakajima, Julia Eckhardt, J.G.Thirlwell, Stefan Thut, Paul Whitty, Manfred Werder and Taku Unami and she’s released records on Absinth Records, Another Timbre, Potlatch and Confrontrecords.
Steve Beresford has been a central figure in the British and international spontaneous music scenes for over forty years, freely improvising on the piano, electronics and other things with people like Derek Bailey, Evan Parker, Han Bennink, John Zorn and Alterations (with David Toop, Terry Day and Peter Cusack).
Beresford has an extensive discography as performer, arranger, free-improviser, composer and producer, and was awarded a Paul Hamlyn award for composer 2012.
Mae Steve Beresford yn ffigwr canolog ym myd cerddoriaeth ddigymell Prydain a thramor ers dros ddeugain mlynedd, gan fyrfyfyrio’n ddilyffethair ar y piano, electroneg a phethau eraill gyda phobl fel Derek Bailey, Evan Parker, Han Bennink, John Zorn ac Alterations (gyda David Toop, Terry Day a Peter Cusack).
Mae gan Beresford gatalog recordio helaeth fel perfformiwr, trefnydd, byrfyfyriwr rhydd, cyfansoddwr a chynhyrchydd a derbyniodd wobr gyfansoddi Paul Hamlyn yn 2012.
Simon Reynell of Another Timbre . This is the newest label to appear on the UK scene. Its first batch of releases appeared in autumn 2007—to considerable acclaim—and its second batch in spring 2008. The music that Another Timbre releases is a fascinating blend of improv, eai [electro-acoustic improvisation] and modern composition, unlike that of any other current label.
Simon Reynell o Another Timbre. Dyma’r label diweddaraf i ymddangos ar sîn y DU. Rhyddhawyd ei swp cyntaf o recordiadau yn hydref 2007 – gan dderbyn clod mawr – a’i ail swp yng ngwanwyn 2008. Mae’r gerddoriaeth y mae Another Timbre yn ei rhyddhau’n gymysgedd difyr o fyrfyfyrio electroacwstig a chyfansoddi modern sy’n annhebyg i unrhyw label arall ar hyn o bryd.
If you would like to purchase a copy of Trwst please use the Capel y Graig contact page.
Os hoffech brynu copi o Trwst defnyddiwch dudalen gyswllt Capel y Graig.