Ensõ  Lara Jones  2020

‘As I was creating I felt as though I was sharing with Capel, almost as if we were working like bandmates might work. I’d put something out there and it would give me something back, sometimes it would surprise me and I’d capture it and roll with it, sometimes we battled until we found the sound we both wanted, other times we spoke and shared harmoniously; we worked together. You can’t be with Capel Y Graig and not interact with it, it was an amazing experience…..’ Lara Jones

‘Wrth i mi greu, ro’n i’n teimlo fel ’swn i’n rhannu gyda’r Capel, bron fel pe baen ni’n gweithio fel y byddai mêts mewn band yn gweithio. Byddwn i’n rhoi rhywbeth allan fan’na a byddai’n rhoi rhywbeth yn ôl i mi. Weithiau byddai’n fy synnu a byddwn yn ei ddal ac yn mynd gyda fo, ac weithiau bydden ni’n brwydro nes i ni gael hyd i’r sŵn roedden ni’n dau ei eisiau; dro arall bydden ni’n siarad ac yn rhannu’n gytûn – bydden ni’n cydweithio. Allwch chi ddim bod gyda Capel y Graig a pheidio â rhyngweithio gyda fo – profiad anhygoel oedd o.’ Lara Jones

Lara Jones is a saxophonist, improviser, composer & collaborator. She is a member of award winning J Frisco & Beyond Albedo.
She creates immersive, meditative soundscapes with solo saxophone & electronics; using live processing and field recordings. As a soloist, Lara has recently completed her place on Manchester Jazz Festival’s Hothouse Programme which commissioned her to write a new series of audio-visual based works for saxophone & electronics. She has received the Jerwood Jazz Encounters Fellowship to develop this work into an interactive installation in train stations and through Brighter Sound is receiving mentorship from Anna Meredith.

She has recently released her debut solo album ‘Ensō’ recorded at Capel Y Graig which has been featured on BBC Radio 3’s ‘Freeness’ and in London Jazz News.

Photographs by Jess Rose

Lluniau gan Jess Rose

Listen to Ensõ

Sacsoffonydd, perfformwraig fyrfyfyr, cyfansoddwraig, addysgwraig a chyd-weithredwraig yw Lara Jones sy’n rhannu ei bywyd rhwng Leeds a Llundain. Mae’n aelod o J Frisco, triawd jazz sy’n creu seinluniau byrfyfyr sy’n hylifol o ran genre a sŵn a dynnir o faterion sy’n ymwneud â’r emosiynau, gwleidyddiaeth a rhywedd. Mae Lara yn aelod o Beyond Albedo, pedwarawd retro-ddyfodolaidd rhyngserol ac yn Gyd-gyfarwyddwr Northern Contemporary Collective, ensemble o gerddorion, artistiaid a dawnswyr sy’n defnyddio gofodau anarferol, byrfyfyrio a ffurfiau trawsgelfyddydol ac sy’n cyflwyno gweithdai addysgol yng Ngholeg Cerdd Leeds.
Yn ystod ei phreswyliad 6 diwrnod dwys yma yn y Capel, bydd Lara yn gweithio ar ysgrifennu a recordio ei halbwm cyntaf sy’n edrych ar symudiad cylchol siwrnai drên y mae wedi’i gwneud yn rheolaidd rhwng Leeds a Llundain dros y 12 mis diwethaf. Wedi’i hysbrydoli gan y syniad/symbol Japaneaidd o Enso, mae Lara yn anelu at fynegiant ymgorfforedig o’r ennyd, gan adael lle i afreoleidd-dra ac i ddyfod, wrth gwestiynu cyfyngiadau prosesau canfyddedig y Gorllewin tuag at ’berffeithrwydd’.

Please go to the Lara Jones project page for more info…

……

Yn anffodus bu’n rhaid i ni ganslo Preswyliad Artist / Arddangosfa Zosia Jo oherwydd y Coronafeirws.
Mae’r Capel a finnau’n siomedig iawn; fodd bynnag, rydyn ni wir yn gobeithio y gall Zosia ddod â Fabulous Animal i’r Capel yn y dyfodol.

Unfortunately we have had to cancel Zosia Jo’s Artist’s Residency/ Exhibition due to the Corona Virus.
Y Capel and I are very disappointed, however, we do hope Zosia can bring ‘Fabulous Animal’ to y capel in the future.

Fabulous Animal is a research project, an approach, a method and an attitude. It is a feminist approach to dance and movement and a performative project. In this multi-artform exhibition Zosia Jo presents a snap shot of her current practice through photography, film and an experiential installation.
Step into the creature’s den and find your own Fabulous Animal

Prosiect ymchwil, dull ac agwedd yw Fabulous Animal. Ymagwedd ffeministaidd yw hi tuag at y ddawns a symudiad ac yn brosiect perfformiadol. Yn yr arddangosfa hon â’i haml ffurfiau ar gelfyddyd, mae Zosia Jo yn cyflwyno ciplun o’i gwaith presennol drwy ffotograffiaeth, ffilm a gosodwaith arbrofol.
Camwch i ffau’r creadur a chael hyd i’ch Anifail Rhyfeddol eich hun.